Fore Mawrth yr wythnos hon (Mehefin 19) bu farw’r Parchedig Dafydd Henry Edwards – cyn-enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd, ac un o enwau mawr pulpudau Undeb y Bedyddwyr Cymraeg.

Roedd yn 82 oed ac wedi bod yn derbyn triniaeth at ganser, ond wedi bod yn cynnal oedfaon hyd at wythnos i’r Sul diwethaf (Mehefin 10).

Roedd yn hanu o ardal Ffair Rhos yng ngogledd Ceredigion, ond fe dreuliodd nifer o flynyddoedd yng Nghwm Rhondda, cyn mynd yn weinidog yn Y Wladfa ym Mhatagonia am gyfnod o chwe mis. Ond yn ôl i’r Rhondda y daeth.

Fe aeth i’r weinidogaeth yn 15 oed, dod yn Llywydd Undeb y Bedyddwyr, a chodi ambell ael trwy arddel ei gysylltiad agored gyda’r Seiri Rhyddion ac annog sefydlu cyfrinfeydd Cymraeg eu hiaith.

Fe fu Dafydd Henry Edwards yn gynghorydd sir hefyd, ac fe arweiniodd sawl pererindod i Israel a mannau eraill, gan gyhoeddi llawlyfr taith wedi’i seilio ar “wlad y Beibl”.

Fe dreuliodd gyfnod byr yn weinidog gyda’r Bedyddwyr yn Pittsburgh yn yr Unol Daleithiau.

Yn fardd ifanc, fe enillodd gadair Ysgol Tregaron deirgwaith, ynghyd â chadeiriau eisteddfodau lleol a dod yn Brifardd yr Urdd. Mae rhai o’i gerddi wedi’u cynnwys yn y flodeugerdd, Awen Aberteifi (1961) gan olygydd y gyfrol, T Llew Jones.