Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i ffermwyr a pherchnogion tir edrych allan am arwyddion bod rêfs anghyfreithlon yn y gwynt.

Yn ôl yr heddlu, gall y rêfs yma achosi poen meddwl i’r gymuned.

Ac os nad ydyn nhw yn cael eu hatal yn go gyflym, mae yn anodd rhoi stop arnyn nhw – a hynny oherwydd niferoedd y bobol dan sylw, a’r perygl y byddai tarfu ar y fath ddigwyddiad yn gallu achosi mwy o drafferth na’i werth.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Robyn Mason o Heddlu Dyfed-Powys: “Does dim dwywaith bod y math yma o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu yn ofalus, a bod gwybodaeth leol yn bwysig wrth ddenu criw o bobol i gae ‘hwylus’, neu ddarn o dir sydd wedi ei dargedu o’r blaen fel safle cyfleus.

“Rydym yn annog ffermwyr, perchnogion tir a’r gymuned leol i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw ymddygiad amheus.”

Gofynnir i unrhyw un sy’n amau bod ymddygiad amheus ar droed, i ffonio’r heddlu ar 101.