Mae dau berson o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod ynghlwm â chyflenwad cyffuriau dosbarth A.

Cafodd y pâr eu harestio wedi i heddlu gynnal chwiliadau mewn pedwar lle gwahanol yn ardal Corneli ddydd Iau (Mehefin 21).

Daeth swyddogion o hyd i 10 cilogram o gyffuriau, swm sylweddol o arian parod, pum cerbyd, a thaclau cyffuriau.

Dyma un o’r cyflenwadau mwyaf o gyffuriau sydd erioed wedi’i ddarganfod yn yr ardal, meddai Heddlu’r De.

Bellach mae’r pâr – dyn 50 oed, a dynes 57 oed – yn y ddalfa.