Mae Cymro sy’n actio Elton John mewn ffilm newydd am fywyd y seren bop, wedi dechrau ar y gwaith.

Fe wnaeth Taron Egerton, sydd â 381,000 o ddilynwyr ar ei dudalen Twitter, drydar llun o’i gysgod, gyda’r neges: ‘Dyma ni’n mynd’.

Cafodd yr actor ei fagu yn Aberystwyth ac Ynys Môn, a’i rôl ddiweddaraf yw action Elton John yn y ffilm Rocketman.

Bydd yr actor ifanc, 28, yn portreadu’r miliwnydd o’i gyfnod yn fyfyriwr yn y Royal Academy of Music i ddechrau ei yrfa pop yn y 1970au a’r 1980au.

Mae’r ffilm yn cael ei chynhyrchu gan Elton John ei hun a’i ŵr, David Furnish, ynghyd â Matthew Vaughn, oedd yn cyfarwyddo’r ffilmiau Kingsman a wnaeth Taron Egerton yn enwog.