Mae dyn 60 oed wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 lle bu farw dyn arall.

Cafodd swyddogion heddlu eu galw i’r ffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd – cyffyrdd 29 a 28 – am tua 4.35 yr hwyr, ddydd Iau (Mehefin 21).

Yno fe roedd tri char wedi gwrthdaro â’i gilydd – Honda 4×4 coch, Perodua du a Audi A6 arian. Fe dderbyniodd gyrrwr y Perodua anafiadau difrifol, a bu farw yn y fan a’r lle.

Bellach mae gyrrwr y Honda – dyn o Buckinghamshire – wedi cael ei arestio a’i gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi teulu’r dyn marw, ac mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio i’r achos.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth, yn enwedig pobol sydd â deunydd fideo o’r digwyddiad, gysylltu â’r llu.