Daeth yr amser i’r rhai sy’n beirniadu Leanne Wood yn ddistaw bach, i ddweud yn agored eu bod nhw eisiau gweld arweinydd newydd ar Blaid Cymru.

Dyna farn Neil McEvoy, yr Aelod Cynulliad sydd wedi ei wahardd o’r Blaid tan fis Mawrth am “dorri cyfres o reolau sefydlog”.

“Mae’n sicr” yn amser am newid i Blaid Cymru, meddai Neil McEvoy, ac mae angen i bobol sy’n beirniadu’r arweinyddiaeth yn dawel bach beidio “cuddio”.

“Mae’n bryd i bobol gamu ymlaen a dweud lle maen nhw eisiau mynd â’r Blaid achos ers tro mae llawer o sgyrsiau mewnol wedi bod gyda dim byd allan yn agored.

“Yr eironi yw fy mod i wedi bod yn agored gyda fy meirniadaeth a gyda’r ffordd dw i’n credu y dylai’r Blaid fynd. Mae’n bryd i’r sawl sydd dal yn y Blaid nawr i dynnu llinell a dweud yr hyn maen nhw wir yn meddwl. Mae’r amser i guddio wedi mynd.”

Angen newid cyfeiriad

Er mwyn iddi fedru newid cyfeiriad, mae angen i Blaid Cymru gael  cystadleuaeth i ddewis pwy ddylai arwain y blaid, yn ôl Neil McEvoy.

Mae’r gwleidydd o Gaerdydd yn y gogledd heno i drafod gweledigaeth ei grŵp pwyso newydd, Propel.

Daeth yr amser i “rywun gam ymlaen” a herio’r arweinydd presennol, meddai.

Mae cyfle i herio arweinydd Plaid Cymru yn codi pob dwy flynedd, ac mae’r BBC yn adrodd bod canghennau’r Blaid yn etholaethau  Rhun ap Iorwerth ac Adam Price wedi galw arnyn nhw i herio Leanne Wood am yr arweinyddiaeth.

Ond hyd yma does yr un o’r ddau wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu gwneud hynny.

“Dw i’n meddwl y byddai’n help i’r Blaid a Chymru pe bai cystadleuaeth,” meddai Neil McEvoy.

“Dw i’n credu bod angen i Leanne ddweud pwy yw hi ac egluro ei record a pham dydyn ni heb wneud cynnydd ar ôl ei chwe blynedd [wrth y llyw].

“Mae’r [Blaid] wedi bod yn wan o ran ei threfniadau, gyda pherthnasau yn torri lawr mewn sawl rhan o’r Blaid… dw i’n credu bod angen i Leanne gymryd cyfrifoldeb dros hynny.

“A phe bai ymgeisydd neu ymgeiswyr eraill, byddan nhw’n gallu cyflwyno eu gweledigaeth nhw o ran y Blaid. Dw i’n credu bod ni’n ddigon pell i ffwrdd o etholiadau i gael y sgyrsiau hynny.

Sofraniaeth, nid annibyniaeth

Bydd Neil McEvoy yn trafod sofraniaeth yn y cyfarfod Propel yng Nghaernarfon heno, gan fynnu mai dyna’r nod ddylai Plaid Cymru anelu ato.

“Mae’n bryd i bwerau gael eu tynnu o Fae Caerdydd a’u datganoli i lywodraeth leol – awdurdodau lleol dylai benderfynu pa gynllun cynllunio maen nhw eisiau…

“Os dywedwch chi annibyniaeth, beth yn union mae hynny’n ei olygu? Ydy e’n meddwl llywodraeth ganolog yn dominyddu’r wlad? Mae angen i ddemocratiaeth ddod o’r gwaelod ac estyn i fyny yn hytrach nag o’r top i’r gwaelod.

“Gyda sofraniaeth, mae rhai pethau y gellid ei rannu hefyd, gall fod rhai pethau y bydd senedd-dai sofran yr Alban, Lloegr a Chymru am rannu.

“Dw i ddim yn defnyddio’r gair annibyniaeth achos does neb yn annibynnol mewn gwirionedd. Mae cymunedau, gwledydd, rydym ni i gyd yn gyd-ddibynnol.”

Bydd Neil McEvoy yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon heno am 6.30.