Mae traffordd yr M4 rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn glir unwaith eto yn dilyn damwain yno ddydd Iau (Mehefin 20).

Cafodd dau berson eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng cyffordd 30 Pentwyn, a chyffordd 28, Parc Tredegar.

Nid yw cyflwr y ddau ddim yn hysbys.

Caeodd rhan o’r ffordd am 4.30 yr hwyr, a chafodd rhan arall ei chau am hanner awr fel bod ambiwlans awyr yn medru glanio.

Bellach mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â chamera ar flaen eu car, wnaeth ffilmio’r digwyddiad, i gysylltu â nhw.