Mae’r sustem ar gyfer goruchwylio troseddwyr wedi iddyn nhw ddod o garchar yng Nghymru a Lloegr yn “llanast”, yn ôl Aelodau Seneddol.

Daw beirniadaeth Pwyllgor Cyfiawnder San Steffan, yn sgil ymdrechion Llywodraeth Prydain i breifateiddio’r Gwasanaeth Prawf.

‘Gweddnewid Adsefydlu’ (GA) oedd enw’r cynllun preifateiddio, a’i nod oedd lleihau achosion o aildroseddu drwy roi’r gwaith i gwmnïau cymunedol.

Ond, ers ei sefydlu yn 2014, mae wedi ei feirniadu dro ar ôl dro gan Aelodau Seneddol, arolygwyr a chyrff gwarchod.

Y feirniadaeth

“Pwrpas ‘Gweddnewid Adsefydlu’ oedd gwella’r ffordd mae troseddwyr yn cael eu rheoli yn y gymuned, a lleihau achosion o aildroseddu,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyfiawnder, Bob Neill.

“Roedd amcanion canmoladwy i ddiwygiadau GA, ond mae’r diwygiadau wedi methu â’u gwireddu. Rydym yn amau’n fawr na fydd GA fyth yn medru cynnig y gwasanaeth prawf sydd ei angen arnom.”

Mae’r pwyllgor hefyd yn nodi bod yna “gwestiynau mawr” ynglŷn â sawl mater, gan gynnwys y cymorth mae pobol yn derbyn ar ôl gadael y ddalfa.