Mae Airbus wedi rhybuddio y gallan nhw adael gwledydd Prydain yn sgil Brexit.

Mae’r cwmni gwneud awyrennau yn cyflogi 7,000 o weithwyr yng Nghymru.

Os bydd gwledydd Prydain yn gadael y farchnad sengl a’r undeb dollau, heb daro bargen tros gyfnod pontio, mi fydd Airbus yn “ailystyried eu buddsoddiadau” yno, medden nhw.

Ac mewn “asesiad risg” ar eu gwefan, mae’r cwmni wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ehangu’r cyfnod pontio, gan ddadlau nad oes digon o amser i baratoi dan y cynlluniau presennol.

Y ‘cyfnod pontio’ yw’r term ar gyfer y cyfnod o amser – Mawrth 29 2019 hyd at 31 Rhagfyr 2020 – wedi Brexit pan fydd y Deyrnas Unedig yn parhau i gydymffurfio â rheolau Ewropeaidd.

Mae Airbus yn cyflogi 14,000 o bobol mewn 25 safle ledled y Deyrnas Unedig, ac mae dau o’r safleoedd yma yng Nghymru – ym Mrychdyn, Sir y Fflint,  a Chasnewydd.

Gem yn y goron

“Y ffatri Airbus anferthol yng ngogledd Cymru yw un o gemau coron diwydiant cynhyrchu’r Deyrnas Unedig,” meddai cyn-Ysgrifennydd Cymru, Aelod Seneddol Preseli a Phenfro, Stephen Crabb.

“Neges yw hon, bod yn rhaid i ni ddeffro. Mae angen Brexit synhwyrol sy’n amddiffyn masnach a swyddi. Mae hynna’n allweddol.”