Mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ailystyried gadael yr Undeb Tollau a’r Farchnad Sengl yn dilyn Brexit.

Ar drothwy Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, sy’n cael ei chynnal ar ynys Guernsey heddiw, mae Carwyn Jones a Nicola Sturgeon yn dweud y byddai gadael y ddau sefydliad yn “niweidiol tu hwnt” i economïau’r ddwy wlad.

Yn ôl y ddau brif weinidog, “llinellau coch” Llywodraeth Prydain, ac nid diffyg cydweithrediad yr Undeb Ewropeaidd, sy’n gyfrifol am y ffaith y bydd rhaid i’r Deyrnas Unedig eu gadael.

Maen nhw hefyd yn dweud mai araith Theresa May yn Lancaster House fis Ionawr y llynedd – lle dywedodd ei bod eisiau gadael y Farchnad Sengl a chael cytundeb ar yr Undeb Tollau – sydd wedi creu’r “llinellau coch”.

“Model tebyg i un Norwy”

“Rydym yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnwys ymrwymiad yn ei Phapur Gwyn arfaethedig i aros yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau gan gydnabod y bydd hyn yn gofyn am gydweddiad parhaus gydag amgylchedd rheoleiddiol yr Undeb Ewropeaidd,” meddai’r datganiad.

“Dylid anelu at fodel tebyg i un Norwy ar sail y ffaith nad yw’r llinellau coch a osodwyd gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ei haraith yn Lancaster House ym mis Ionawr yn gyson â budd y genedl.”