Mae angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o sylw i’r diffyg yn ansawdd aer yng Nghymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Ar ‘Ddiwrnod Aer Glân’, mae’r Aelod Cynulliad, David Melding, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mannau aer glân mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam.

Mae’r llefarydd ar yr amgylchedd hefyd yn galw am dechnoleg sy’n mesur llygredd yr aer i gael eu cyflwyno mewn ysgolion ledled Cymru.

Lefelau uchel o lygredd

Daw’r galwadau hyn ychydig dros fis ar ôl i adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ddangos mai Port Talbot yw’r ardal fwyaf llygredig yng ngwledydd Prydain.

Roedd yn nodi bod Port Talbot ymhlith nifer o ardaloedd ledled y Deyrnas Unedig lle mae’r lefelau o PM2.5 yn yr aer yn uwch na’r hyn sy’n ddiogel i iechyd pobol.

Roedd yr un adroddiad hefyd yn dweud bod 7m o bobol yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i ddiffyg aer glan, gyda naw allan o bob 10 yn gorfod anadlu lefelau peryglus o lygredd.

“Dangos ychydig o arweiniad”

“Mae cynlluniau ar gyfer cyflwyno mannau aer glân eisoes yn bodoli mewn pum dinas yn Lloegr, ac mae’r Alban hefyd yn agos y tu ôl iddyn nhw gyda phedwar yn cael eu rhoi yn eu lle ar gyfer 2020,” meddai David Melding.

“Mae’r cynnydd hwn yn digwydd tra bo Llywodraeth Cymru yn dal i ymgynghori. Dewch i ni weithredu a dangos ychydig o arweiniad, cyn i ni fynd yn sownd mewn cylch o wleidyddiaeth ‘copy-cat’.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.