Mae gwyddonydd o Brifysgol Abertawe yn treulio’r mis nesa’ ar len iâ yn yr Ynys Las fel rhan o brosiect i ddeall mwy am hanes yr hinsawdd.

Mi fydd yr Athro Siwan Davies, sy’n adnabyddus i wylwyr S4C fel cyflwynydd y rhaglen Her yr Hinsawdd, yn aros mewn gorsaf wyddonol ryngwladol sydd wedi’i lleoli ar len iâ yng ngogledd-ddwyrain y wlad.

Nod Prosiect Craidd Iâ Dwyrain yr Ynys Las (EastGRIP) yw drilio 2,500 o fetrau i waelod y llen, er mwyn dysgu mwy am ddeinameg llif yr iâ, a sut y bydd llifoedd iâ yn cyfrannu at newid lefel y môr yn dyfodol.

Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd y gwaith yn dysgu mwy iddyn nhw am hinsawdd y gorffennol, wrth iddyn nhw ddadansoddi’r iâ ar gyfer nwyon tŷ gwydr, cyfansoddiad cemegol a chynnwys llwch.

Y bwriad yw llunio hanes manwl o’r hinsawdd dros y 25,000 mlynedd ddiwetha’.

‘Profiad unigryw’

“Mae’n fraint anferth cyfrannu at y prosiect hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at brofi bywyd yn y gornel anghysbell hon o’r Ynys Las,” meddai’r Athro Siwan Davies.

“Mae’r gwersyll wedi’i adeiladu’n arbennig ar gyfer y gwaith hwn, ac mae’n drawiadol tu hwnt.

“Bydd y diwrnodau gwaith yn hir, bydd y tymheredd yn debygol o amrywio rhwng -20°C a -10°C, ac fe allai’r 24 awr o haul y dydd ar y lledred uchel hwn achosi problemau cysgu.

“Mae’n brofiad unigryw!”