Dyw’r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo pobol awtistig, “ddim yn ddigon da” meddai ymgyrchydd tros y mater.

Daw sylw Aled Thomas, sydd ei hun ar y sbectrwm awtistiaeth, yn sgil cyhoeddi adroddiad am strategaeth y Llywodraeth ddoe.

Ers lansiad y ‘Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig’ yn 2016, mae’r adroddiad yn nodi bod gwasanaethau ac ymwybyddiaeth wedi gwella yng Nghymru.

Ond, mae Aled Thomas yn pryderu bod Llywodraeth Cymru wedi anghofio am sector bwysig yn y maes – y sector gwirfoddol a’u helusennau.

“Anwybyddu”

“Dw i’n cydnabod eu bod yn gwneud gwaith da,” meddai wrth golwg360.

“Ond mae beth allan nhw fod yn gwneud, hyd yn oed yn well … Maen nhw’n dal yn parhau i anwybyddu pa mor bwysig mae’r sector wirfoddol.

“… Yn ôl y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mae ‘na ddyletswydd ar y Llywodraeth i weithio gyda’r sector wirfoddol. A gyda’u strategaeth, sa i’n credu eu bod nhw’n profi na’n dangos sut maen nhw’n gwneud hynny.”

Cyfarfod Llawn

Daw sylwadau Aled Thomas hefyd yn sgil trafodaeth am awtistiaeth yng nghyfarfod llawn y Cynulliad ddoe (dydd Mawrth Mehefin 19).

Yn gyn-aelod Plaid Cymru, mi gyflwynodd cynnig gerbron cynhadledd Plaid Cymru yng Nghaernarfon yn 2017, a ddaeth, meddai, yn rhan o bolisi’r blaid.

Dan y polisi, meddai, mae’r blaid wedi ymrwymo i bwyso ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o arian i’r sector wirfoddol wrth ariannu gwasanaethau awtistiaeth.

Doedd dim sôn am y polisi yma yn y siambr, brynhawn ddoe, ac mae Aled Thomas wedi cyfleu ei siom am hynny.

Siom

“Mae Plaid Cymru wedi colli mas ar gyfle i ddangos bod ganddyn nhw bolisi ar awtistiaeth,” meddai.

“Wnaethon nhw ddim sôn amdano. Dw i’n eitha’ siomedig i ddweud y gwir, a dw i’n gofyn: Ydy’r polisi yna yn golygu unrhyw beth iddyn nhw?”

Mae’n ategu bod y Blaid wedi colli cyfle i “fragio” am y polisi, a bod awtistiaeth i weld yn fater sydd “ddim mor bwysig iddyn nhw”.

Mewn ymateb, i feirniadaeth Aled Thomas, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros iechyd:

“Rydym yn falch iawn bod ein cynhadledd wedi cymeradwyo’r polisi newydd ac rydym yn falch o’r flaenoriaeth mae Plaid Cymru yn ei roi i’n polisi Awtistiaeth drwy waith caled unigolion fel Aled.

Nid dadl gafwyd yn y Cynulliad ddoe, ond datganiad Llywodraeth a chyfle i ofyn cwestiwynau ynglyn a’r datganiad hwnnw, ond byddwn wrth gwrs yn chwilio am bob cyfle i hyrwyddo’r polisi.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.