Mae plasty a fu’n  gartre’ i’r sgweier a oedd yn gyfrifol am un o helyntion crefyddol a gwleidydol mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Ngheredigion – y ‘troi allan’, – wedi cael ei roi ar y farchnad.

Mae Plasty Alltyrodyn wedi’i leoli yn ardal Capel Dewi ger Llandysul, ac roedd ar un adeg yn cael ei ystyried yn ganolbwynt i stad a oedd ymhlith y chwe mwya’ yng Nghymru.

Mi gafodd yr plasty presennol, sy’n cynnwys wyth ystafell wely, ei adeiladu tua 1827, ond bu’r safle’n gartre’ i deulu bonheddig y Lloydiaid am ganrifoedd cyn hynny.

‘Troi allan’

Roedd un aelod o’r Lloydiaid, sef John Lloyd Davies (1850-78), yn gyfrifol am y ‘Troi allan’ o Gapel Llwynrhydowen yn 1876, lle cafodd Undodwyr lleol eu cloi allan o’u capel.

Roedd hynny yn rhannol oherwydd canlyniad Etholiad 1868, lle pleidleisiodd nifer o’i denantiaid yn erbyn ei ddymuniad ac o blaid yr ymgeisydd Rhyddfrydol.

Roedd hefyd yn ddrwgdybus o weinidog y capel ar y pryd, sef Gwilym Marles, o bregethu syniadau radical o’r pulpud.

Mi gafodd y capel ei ailagor yn fuan wedi marwolaeth John Lloyd Davies yn 1878, er bod yr Undodwyr erbyn hynny wedi adeiladu capel newydd gerllaw.

Mae’r Plasty Alltyrodyn yn cael ei werthu gyda choedlan a gardd, hen fathdy a stablau, am bris o £800,000.