Mae cynhadledd niwclear ryngwladol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yr wythnos hon, y tro cynta’ erioed i’r digwyddiad ymweld â Chymru.

Mae ‘Cynhadledd Cadeiryddion y Pwll Niwclear’ yn digwydd bob tair blynedd ac yn cael ei chynnal yn draddodiadol yn Llundain.

Ond mae’r trefnwyr wedi penderfynu ei chynnal yng Nghymru eleni, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal yn y Celtic Manor ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

Mae’n cael ei threfnu gan y cwmni yswiriant, Nuclear Risks Insurers Ltd, sy’n gweithredu fel asiant o fewn y farchnad yswiriant ar gyfer popeth sy’n ymwneud ag yswiriant niwclear.

Ynni niwclear yn bwysig i Gymru

Yn ôl Dr Tim Stone, Cadeirydd Nuclear Risk Insurers Ltd, mi wnaethom nhw ddewis Cymru fel lleoliad wrth ystyried “pwysigrwydd ynni niwclear i’r economi yng Nghymru, a’i hanes ar draws y rhanbarth,” meddai.

“Mae cryfder sgiliau, gwybodaeth ac arloesi yng Nghymru yn hollbwysig, nid yn unig ar gyfer datblygiad y wlad, ond i ehangu’r sector yn fyd-eang,” meddai.

“Cyfleoedd economaidd enfawr”

Mae Ysgrifennydd yr Economi ym Mae Caerdydd, Ken Skates, wedi croesawu’r gynhadledd, gan ddweud ei fod yn cydnabod y “cyfleoedd economaidd enfawr” mae’r sector yn ei gynnig i Gymru.

“Dw i’n falch bod ein gwaith parhaus i greu capasiti a denu buddsoddiad yn cael ei gydnabod o fewn y diwydiant ac yn falch bod trefnwyr Cynhadledd Cadeiryddion y Pwll Niwclear wedi dewis Cymru fel eu lleoliad cyntaf y tu allan i Lundain,” meddai.

Fe ddechreuodd y gynhadledd ddydd Llun (Mehefin 18), ac mi fydd yn parhau tan ddiwedd yr wythnos.