Mae disgwyl y bydd cyfraith newydd sy’n gosod isafswm pris alcohol mewn grym yng Nghymru erbyn yr haf nesaf ar ôl i’r Cynulliad ei chymeradwyo ddoe.

Mae Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau lefelau goryfed.

Mae’r ddeddfwriaeth yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag yfed peryglus a niweidiol drwy geisio lleihau’r graddau y mae alcohol rhad a chryf ar gael.

Yn dilyn cymeradwyaeth Aelodau’r Cynulliad, bydd y Bil yn dod yn gyfraith pan fydd yn cael Cydsyniad Brenhinol.

Effaith ar iechyd

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, ei fod yn falch iawn bod Aelodau’r Cynulliad wedi cymeradwyo’r ddeddfwriaeth.

“Y llynedd yn unig, bu farw dros 500 o bobl am resymau sy’n gysylltiedig ag alcohol a chafodd bron i 55,000 o bobl eu derbyn i’r ysbyty yng Nghymru am yr un rhesymau. Roedd cyfanswm y costau gofal iechyd uniongyrchol y gellir eu priodoli i alcohol tua £159m.

“Mae’n broblem yng Nghymru bod alcohol rhad a chryf ar gael yn rhwydd, fel sy’n wir am lawer o wledydd eraill y Gorllewin. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn gwneud cyfraniad pwysig i fynd i’r afael â’r mater hwn.”

Ar ôl i’r gyfraith newydd ddod i rym, bydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno isafbris am alcohol a gyflenwir yng Nghymru. Bydd felly yn drosedd i gyflenwi alcohol islaw isafbris penodol a fydd y cael ei gyfrifo drwy gynnwys yr isafbris uned hwnnw, cryfder yr alcohol a’i gyfaint, gan dargedu’n benodol alcohol rhad a chryf.

Bydd lefel yr isafbris uned at y diben hwn yn cael ei phennu mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru yn dilyn ymgynghoriad eleni.