Mae adroddiad ynglŷn â’r bwlch rhwng ieithoedd yn y byd digidol wedi cael ei gymeradwyo gan un o bwyllgorau Senedd Ewrop.

Mae’r adroddiad ‘Cydraddoldeb Iaith yn yr Oes Ddigidol’ wedi’i baratoi gan yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Jill Evans, ac mi gafodd ei gymeradwyo heddiw gan y Pwyllgor Diwylliant ym Mrwsel.

Mae’n nodi bod nifer o ieithoedd bychain yn cael eu hanwybyddu neu’u gwthio i’r cyrion ar-lein, a hynny wrth i ieithoedd mwy o faint, fel y Saesneg, ddominyddu.

Dywed fod 500m o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn rhannu tua 80 o ieithoedd gwahanol, ond dim ond rhai o’r ieithoedd hynny sydd i’w gweld ar-lein.

Galw am weithredu

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae Jill Evans yn galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i weithredu er mwyn cefnogi datblygu cynnyrch digidol sy’n cynnwys amrywiaeth eang o ieithoedd.

Ymhlith ei hargymhellion mae:

  • gwella’r fframwaith sefydliadol ar gyfer polisïau technoleg iaith;
  • creu polisïau ymchwil newydd i gynyddu defnydd technoleg iaith yn Ewrop;
  • defnyddio polisïau addysg er mwyn sicrhau dyfodol cydraddoldeb iaith yn yr oes ddigidol;
  • cynyddu’r gefnogaeth i gwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus i wneud defnydd gwell o dechnoleg iaith.

“Bydd defnydd creadigol technoleg digidol newydd yn ein helpu i bontio’r bwlch digidol rhwng ieithoedd,” meddai.

“Bydd hyn yn golygu cyfleoedd gwell i’r nifer sylweddol o bobol yn Ewrop sy’n siarad ieithoedd sydd yn aml ddim ar gael ar blatfformau fel Siri neu Alexa, er enghraifft.”