Mae arolwg i achosion o gamymddwyn yn y Cynulliad yn awgrymu bod bron i draean o staff wedi profi ymddygiad amhriodol.

Mi gynhaliodd Comisiwn y Cynulliad yr arolwg rhwng Ebrill 19 a Mai 11, gan dderbyn ymatebion gan 128 o aelodau staff y Comisiwn, Aelodau Cynulliad, a’u staff cymorth.

Atebodd 112 o’r rheiny i’r cwestiwn: “A ydych chi erioed wedi cael profiad o ymddygiad amhriodol wrth weithio [yn eich swydd]?”

Ymatebodd 28.6% eu bod wedi “ar sawl achlysur”, dywedodd 4.4% eu bod wedi profi hyn unwaith, a phenderfynodd 5.4% i ymwrthod rhag ateb.

Roedd 61.6% heb erioed brofi hyn.

“Haws peidio” cwyno

Gofynnodd yr arolwg, hefyd, bod unigolion a brofodd “ymddygiad amhriodol” neu oedd yn dyst i hynny, ond heb roi gwybod, yn esbonio pam.

Ymatebodd 37 o bobol i’r cais yma, gyda sawl un yn datrys bod yna ddiffyg gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud cwyn, neu fod y mater wedi’i ddatrys yn “anffurfiol”.

Roedd sawl un yn teimlo ei fod yn “haws peidio” â rhoi gwybod am ddigwyddiadau oherwydd y straen sydd ynghlwm â hyn.

“Anghyfforddus”

Mae Comisiwn y Cynulliad yn derbyn bod y canlyniadau yn “anghyfforddus” a’n rhoi “mandad digonol am newidiadau radical”.

“Heddiw, rydym yn ailddatgan y farn na fyddwn yn goddef ymddygiad amhriodol gan Aelodau, eu staff na staff y Comisiwn.,” meddai’r Comisiwn.

“Ar y cyd, mae gennym i gyd gyfrifoldeb i sicrhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amgylchedd diogel i’r rhai sy’n gweithio yma, i’r rhai sy’n ymweld â’r ystâd ac i unrhyw un sy’n ymwneud â ni.”