Mae cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu peidio â dileu cludiant am ddim i rai disgyblion o fewn y sir.

Bu ffrae fawr yr wythnos ddiwetha’ wrth i’r awdurdod lleol ystyried diddymu cludiant am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a rhai crefyddol.

Ymhlith y rhai a oedd yn feirniadol o’r Cyngor oedd yr Aelod Cynulliad lleol, Llŷr Huws Gruffydd, a nododd y byddai’r cynllun yn “hynod o niweidiol” i addysg Gymraeg y sir.

Ond mewn cyfarfod o’r cabinet heddiw, lle cafodd adroddiad a oedd yn cynnwys yr argymhelliad ei ystyried, mae cynghorwyr wedi penderfynu na fydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyflwyno tan fis Medi 2020.

Er hyn, maen nhw’n parhau i ystyried newidiadau ar gyfer cludiant i ddisgyblion mewn addysg ôl-16.

Croesawu’r cyhoeddiad

Mae ymgyrchwyr dros y Gymraeg wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw.

Dywed Cymdeithas yr Iaith eu bod yn “falch” bod Cyngor Sir y Fflint wedi newid eu meddwl.

“Yn lle cymryd camau sy’n mynd i rwystro normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg, dylai cynghorau fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynllunio ar gyfer addysg Gymraeg i bob disgybl,” meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Yn dilyn hyn, dylai Llywodraeth Cymru anfon nodyn at bob awdurdod lleol i esbonio nad w cynigion fel hyn gan swyddogion Cyngor Sir y Fflint yn dderbyniol yn enwedig gan ystyried y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr.”

Fe fu’r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg hefyd yn llythyru ag Arweinydd y Cyngor a holl aelodau’r cabinet i fynegi pryderon difrifol am oblygiadau dileu cludiant am ddim.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG:

“Mae RhAG yn croesawu’r newyddion ac yn llongyfarch cabinet Cyngor Sir y Fflint ar benderfyniad doeth a synhwyrol. Mae canlyniad heddiw yn gydnabyddiaeth y byddai wedi bod yn gam gwag i fwrw ymlaen gyda chynnig a oedd yn gwrthdaro’n glir gyda deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol ac yn gwbl andwyol i’r Gymraeg ym mhob ffordd posibl.

“Nodwn bod bwriad o hyd i ystyried newidiadau ar gyfer cludiant i ddisgyblion mewn addysg ôl-16 a phwyswn ar y cyngor i gofio eu cyfrifoldeb i’r Gymraeg yn y cyswllt hwnnw.

“Mae gan Sir y Fflint le arbennig yn hanes cynnar twf addysg Gymraeg, ond mae gwaith mawr eto i’w wneud er mwyn sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael yn hwylus ym mhob rhan o’r Sir. Galwn ar y cyngor i fynd ati’n ddiymdroi i ddangos bod addysg Gymraeg yn flaenoriaeth o ddifrif iddynt.”