Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiadau o  £2.6m mewn prosiectau a fydd yn gwella’r amgylchedd.

Yn ôl y corff amgylcheddol, mi fydd y prosiectau llwyddiannus yn helpu bywyd gwyllt, gwella cynefinoedd a sicrhau mynediad at rai o dirweddau mwyaf trawiadol Cymru.

Mae hyn yn rhan o’u bwriad i wneud gwelliannau ar gyfer amgylchedd, pobol ac economi’r wlad yn ystod y deunaw mis nesa’.

Y prosiectau

Er nad yw’r prosiectau wedi derbyn yr arian eto, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud y byddan nhw’n cynnal trafodaethau â’r cynigwyr llwyddiannus yn ystod yr wythnosau nesa’, gan obeithio cael cytundebau yn eu lle yn ystod yr haf.

Ymhlith rhai o’r cynigion llwyddiannus mae:

o   ‘Gwreiddiau a Dŵr’ – prosiect gan Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren a Choed Cadw lle bydd tirfeddianwyr a grwpiau cymunedol yn plannu coedydd brodorol;

o   ‘Rhannu Gofodau’ – prosiect gan Gyngor Tref y Gelli Gandryll i greu coridorau gwyrdd yn y dre’ ac o’i chwmpas, ynghyd â gosod porth gwefru ar gyfer ceir trydan;

o   ‘Gwrychoedd Gŵyr’ – prosiect o hyfforddi tirfeddianwyr a gwirfoddolwyr i reoli ac adfer darnau o wrychoedd yng Ngŵyr.

Cyflawni’r nod

“Mae gwella’r amgylchedd naturiol, a’r bywyd gwyllt sy’n byw yno, yn hynod bwysig i ni ac i Gymru, ei bywyd gwyllt ac ansawdd bywyd pobol,” meddai Rhian Jardin, Cadeirydd Bwrdd Ariannu Strategol Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Rydym ni wrth ein bodd â safon ac arloesedd y ceisiadau sydd wedi ein cyrraedd mewn ymateb i’r cyfle hwn am gyllid, a byddant yn ein helpu ni i gyflawni hyn.”