Bydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio’n ddiweddarach heddiw ar gynnig i wahardd y defnydd o ronynnau plastig yng Nghymru.

‘Microbelenni’ – neu microbeads – yw’r enw am y gronynnau bychain yma, ac maen nhw’n cael eu gosod mewn pob math o ddeunydd, gan gynnwys past dannedd a cholur.

Wrth gwrs, mae llawer o’r sylweddau yma yn cael eu golchi i lawr draeniau.

A gan eu bod mor fychan, mae microbelenni yn medru llifo trwy safleoedd prosesu dŵr yn ddirwystr, a chyrraedd moroedd y byd gan niweidio bywyd gwyllt.

Os bydd y gwaharddiad yn cael sêl bendith yn y Senedd heddiw, bydd creu unrhyw ddeunydd gofal personol – sy’n medru cael eu golchi i ffwrdd – â microbelenni ynddyn nhw yn drosedd.

“Cam pwysig”

“Nid oes angen microbelenni mewn cynhyrchion i’w rinsio i ffwrdd ac maen nhw’n niweidio bywyd y môr,” meddai Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.

“Bydd gwaharddiad yn lleihau’r llygryddion sy’n mynd i mewn i’n moroedd ac mae’n gam pwysig tuag at warchod amgylchedd y môr.”

Bydd y gwaharddiad yn dod i rym ar Fehefin 30, os fydd yn derbyn sêl bendith.