Fe wnaeth oedi cyn triniaeth arwain at farwolaeth babi mewn ysbyty yng ngorllewin Cymru, yn ôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Dechreuodd yr Ombwdsmon, Nick Bennett, ei ymchwiliad wedi iddo dderbyn cŵyn gan fam y baban, Mrs A, ynglŷn â’r driniaeth a dderbyniodd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Roedd wedi derbyn gofal a thriniaeth yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd; ac Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin – lle cafodd Babi C ei ddatgan yn farw.

Cafodd cŵyn y fam ei gadarnhau gan yr Ombwdsmon, a daeth i’r casgliad bod staff meddygol wedi diystyru pryderon Mrs A yn ystod y beichiogrwydd a’r esgor.

“Llu o fethiannau”

“Mae’n amlwg fod Mr a Mrs A wedi cael profiad torcalonnus ac rwy’n gobeithio y bydd canlyniad ymchwiliadau fy swyddfa yn rhoi ychydig o gysur iddynt,” meddai Nick Bennett.

“Gwelwyd diffyg cyfrifoldeb a diffyg cysondeb yn y gofal am Mrs A a Babi C, ynghyd â llu o fethiannau na ddylent fod wedi digwydd.

“… Mae’n holl bwysig bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dysgu’r gwersi o’r camgymeriadau hyn i sicrhau nad ydynt yn digwydd eto.”

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu holl argymhellion yr Ombwdsmon, gan gynnwys ymddiheuro i Mr a Mrs A, a thalu £4,500 i Mrs A i gydnabod y gofid.