Mae cwmni Horizon wedi derbyn cymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd i adeiladu dau adweithydd niwclear newydd ym Môn.

Yn ôl y cwmni ei hun, fe ymatebodd y Comisiwn Ewropeaidd gyda “barn gadarnhaol” i’w cynlluniau i ddatblygu gorsaf niwclear Wylfa Newydd.

Mi gafodd y cais ei baratoi ar y cyd rhwng Horizon a Llywodraeth Prydain, a’i asesu gan y Comisiwn Ewropeaidd i weld os oedd y cynlluniau yn cyrraedd safonau diogelwch.

Roedd y cais yn nodi sut y bydd mesurau ynysu a diogelwch Horizon yn sicrhau na fydd gwastraff ymbelydrol o’r orsaf yn effeithio ar unrhyw wlad arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cymeradwyaeth y corff Ewropeaidd yn golygu bod hawl gan Horizon bellach i dderbyn un o drwyddedau amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn rhoi sêl bendith i’r cwmni ar gyfer ei weithgareddau sylweddau ymbelydrol.

‘Bwrw ymlaen â’r gwaith’

 “Mae sicrhau bod ein gorsafoedd pŵer yn gweithredu’n ddiogel yn un o’n blaenoriaethau cyntaf a phwysicaf” meddai Duncan Hawthorne, Prif Weithredwr Horizon.

“Mae cael cymeradwyaeth yn dilyn asesiad trylwyr a manwl gan y Comisiwn yn gadarnhad pellach ein bod yn gosod cynlluniau cadarn ar waith i gyflawni hyn.

“Byddwn rŵan yn parhau i weithio gyda’r rheoleiddiwr amgylcheddol yng Nghymru i fwrw ymlaen â’r gymeradwyaeth hon ar gyfer y trwyddedau domestig sydd hefyd eu hangen ar Wylfa Newydd.”

Camau ymlaen

Daw’r gymeradwyaeth hon ar ôl i Horizon gyflwyno ei brif gais cynllunio yn ddiweddar, sef y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu, a oedd yn cynnwys bron 41,000 o dudalennau yn rhoi sylw i bob agwedd o’r prosiect yn Wylfa Newydd.

Mi gyhoeddodd Llywodraeth Prydain yn ddiweddar hefyd mai prosiect Wylfa Newydd fydd eu rhaglen nesa’, gan ychwanegu y bydd trafodaethau ynglŷn â chymorth ariannol i’r prosiect yn cychwyn yn syth.