Mi fydd cyfyngiadau cyflymder o 50 milltir yr awr yn cael eu cyflwyno mewn pum lleoliad ar ffyrdd Cymru o heddiw (dydd Llun, Mehefin 18) ymlaen.
Y bwriad yw gwella ansawdd yr aer trwy leihau’r lefelau anghyfreithlon o nitrogen deuocsid.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ansawdd aer gwael yn cyfrannu at tua 2,000 o farwolaethau’r flwyddyn, ac mae’n effeithio ar y rheiny sydd mwyaf bregus.
Mi fydd y cyfyngiadau cyflymder dros dro yn dod i rym yn y lleoliadau canlynol:
- yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy;
- yr A483 yn Wrecsam;
- yr M4 rhwng Cyffordd 41 a 2 (Port Talbot);
- yr M4 rhwng Cyffordd 25 a 26 (Casnewydd);
- yr A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd.
Mesurau eraill
Ymhlith y mesurau eraill fydd yn cael eu cyflwyno yw gosod rhagor o arwyddion er mwyn esmwytho llif y traffig.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y mesurau yn gwella ansawdd aer ar unwaith, a gallai’r allyriadau fod 18% yn is yn y pum lleoliad.
Mae tystiolaeth yn dangos bod lefelau nitrogen deuocsid ar eu hisaf pan fydd cerbydau ysgafn yn teithio ar gyflymder o rhwng 40 a 50 milltir yr awr.
Mae disgwyl i’r cyfyngiadau cyflymder esmwytho llif y traffig hefyd, wrth i gerbydau deithio ar gyflymder mwy cyson.
Gweithredu’n gyflym
“Rwy wedi ymrwymo i geisio lleihau llygredd aer yng Nghymru er mwyn creu dyfodol mwy iach i’n cymunedau a gwarchod ein hamgylchedd naturiol,” meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.
“Mae lefelau presennol y nitrogen deuocsid yn mynd y tu hwnt i’r terfyn cyfreithlon yn y pum lleoliad, felly mae angen i ni gymryd camau cyn gynted â phosib.”