Wrth i’r cyfrifoldeb tros wasanaethau rheilffyrdd Cymru gael eu trosglwyddo i gwmnïau newydd, mi ddylai Llywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle i gyflwyno cerbydau gwyrdd.
Dyna yw un o argymhellion adroddiad newydd, sydd wedi’i lansio gan yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas.
O fis Hydref ymlaen, mi fydd dau gwmni – Keolis ac Amey – yn gweithio ar y cyd i ddarparu gwasanaeth rheilffordd Cymru a’r Gororau, a Metro De Cymru.
Ac yn ôl adroddiad yr Aelod Cynulliad, mi ddylai Llywodraeth Cymru “ddefnyddio’r cyfle a gyflwynir … i wneud yr achos busnes trwy gyflwyno trenau – a bysiau – hydrogen yng Nghymru.”
Awyr “ffres”
Wrth lansio’r ddogfen, mae Simon Thomas wedi dweud bod yna “ddiffyg arweinyddiaeth” tros y mater yng Nghymru, a “gall Cymru unwaith eto” fod yn lleoliad i arloeswyr.
“Gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r cyfleoedd a roddir gan y fasnachfraint reilffyrdd newydd a’r Metros arfaethedig i gyflwyno trenau a bysus hydrogen yng Nghymru er mwyn sicrhau bod yr awyr a anadlwn yn ffres a heb fod yn llygru,” meddai.
Argymelliadau
- Sefydlu tîm ag aelodau o brifysgolion â chynghorau Cymru i arwain y gad tros y mater
- Dylai Llywodraeth Cymru annog cyrff preifat a chyhoeddus i ddatgarboneiddio
- Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu “strategaeth gydlynol, amlsector” ar y mater
Manylion
Prosiect ymchwil yw’r adroddiad o’r enw ‘Potensial Hydrogen yn y Datgarboneiddio o Drafnidiaeth yng Nghymru’.
A chafodd yr ymchwil hwn ei ariannu â chyllid o’r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu’r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer datblygu polisi.