Fe fydd disgyblion o Ysgol Greenfield ym Merthyr Tudful yn teithio i gae criced Lord’s ddydd Iau i gymryd rhan yn rownd derfynol cystadleuaeth criced bwrdd y Lord’s Taverners.

Byddan nhw’n cystadlu yn erbyn 11 o ysgolion eraill yng nghystadleuaeth yr elusen sy’n cynnig cymorth i blant a phobol ifanc sydd ag anableddau ac sydd yn dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon.

Caiff y gystadleuaeth ei noddi gan y Loteri Côd Post a Ford.

Y gystadleuaeth

Mae’r gystadleuaeth criced bwrdd wedi’i chynnal gan y Lord’s Taverners bob blwyddyn ers ugain mlynedd bellach.

Mae mwy na 30 o sefydliadau criced sirol yn rhan o’r gystadleuaeth, a mwy na 300 o ysgolion mewn deg ardal wedi cymryd rhan yn y rowndiau rhagbrofol.

Caiff criced bwrdd ei chwarae ar fwrdd tenis bwrdd ac mae’r ‘cae’ yn cynnwys paneli ar gyfer ffiniau a maeswyr sy’n gallu llithro, lansiwr peli, pêl blastig a bat pren.

Bwriad y gêm yw gwella sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu plant a phobol ifanc sydd ag anableddau, ac mae’n magu eu hyder a’u hannibyniaeth, ac fe all capten pob tîm ddysgu sgiliau arwain pwysig.

‘Diwrnod gwych’

Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol Greenfield: “Mae pawb yn Greenfield wedi cyffroi o allu chwarae yn Lord’s a chynrychioli ein hysgol a’n rhanbarth ar ddiwrnod y Ffeinals Criced Bwrdd.

“Mae’n wych gweld sut mae’r disgyblion wedi datblygu fel unigolion ac fel grŵp ers iddyn nhw ddechrau chwarae criced bwrdd – gan roi’r cyfle iddyn nhw gwrdd â phobol newydd, dysgu sgiliau a thactegau newydd, bod yn rhan o dîm a hefyd cael hwyl.

“Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod gwych yn Lord’s ac mae ein disgyblion wedi gweithio’n eithriadol o galed yn eu sesiynau ymarfer ac wedi cyffroi o gael arddangos eu sgiliau yn y digwyddiad.

“Mae pawb yn eu cefnogi nhw ac maen nhw wedi ein gwneud ni’n falch!”