Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Siân Gwenllian wedi dweud y gallai rhoi’r opsiwn o rannu swydd ddenu mwy o bobol i fod yn ymgeiswyr ar gyfer y Cynulliad.

A hithau’n wraig weddw ac yn fam i bedwar o blant, dywedodd na fyddai hi wedi gallu bod yn Aelod Cynulliad tra ei bod hi’n magu teulu ifanc.

Mae adroddiad a gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar yn galw am newid y gyfraith fel bod modd i ymgeiswyr sefyll ar sail rhannu swydd.

Ond yn ôl y Llywydd Elin Jones, mae’n bosib nad oes gan y Cynulliad yr hawl i wneud newidiadau.

Profiadau Siân Gwenllian

Dywedodd Siân Gwenllian wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales: “Doedd dim ffordd y gallwn fod yn AC i lawr yng Nghaerdydd tra ’mod i’n magu pedwar o blant ar fy mhen fy hun.

“Roedden nhw’n ifanc iawn pan fu farw fy ngŵr.

“Pe bai rhannu swydd wedi bod yn opsiwn, am wn i, mi fyddai wedi bod yn fwy deniadol, oherwydd fe allech chi fod wedi rhannu swydd efo rhywun heb gyfrifoldebau gofalu ac mi allen nhw fod wedi ymgymryd â mwy o’r gwaith o fod yn y Cynulliad am ran o’r wythnos, lle gallwn i fod wedi ymgymryd â rôl yr etholaeth.

“Ac yna ar ôl ychydig flynyddoedd, pan oedd y plant wedi tyfu i fyny, mi allen ni fod wedi cyfnewid.”

Adroddiad

Fe wnaeth adroddiad oedd yn galw am 20 i 30 o aelodau Cynulliad ychwanegol awgrymu y dylid newid y gyfraith er mwyn galluogi ymgeiswyr i sefyll ar sail rhannu swydd.

Dywedodd yr adroddiad y byddai camau o’r fath yn arwain at fwy o amrywiaeth ymhlith yr aelodau.

Ac yn ôl Siân Gwenllian, byddai rhannu swydd yn “ffordd dda o ddenu menywod efo plant i’r rôl”.

Comisiwn y Cynulliad fydd yn penderfynu pa rannau o’r adroddiad ar ddiwygio etholiadol fydd yn mynd ymlaen i’r cam nesaf.