Mae tân mawr wedi dinistrio eglwys a chlwb nos yng Nghasnewydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tân yn Eglwys Gymunedol Bethel a hen glwb Zanzibar yn ardal Stow Hill o’r ddinas ychydig wedi 6 neithiwr.

Roedd fflamau’n llosgi drwy’r eglwys a’r awyr yn dew â mwg tywyll.

Cafodd 40 o drigolion lleol eu hanfon o’u tai rhag ofn, a phawb arall yn cael eu cynghori i gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau.

Fe fu dros 70 o ddiffoddwyr tân wrthi am tua theirawr yn dod â’r tân o dan reolaeth.