Mae staff Llywodraeth Cymru wedi cael cyngor i rannu tystiolaeth gyda gweision sifil, cyn ei gyflwyno i ymchwiliad Carl Sargeant.

Dyna’r awgrym mewn e-bost sydd wedi’i ollwng i’r Wasg.

Neges i staff sydd yn yr e-bost gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Shan Morgan, yn annog staff i gyflwyno’u tystiolaeth i ffigyrau penodol.

“Dylai’r bobol sydd yn credu bod ganddyn nhw dystiolaeth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, dynnu hyn at sylw David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu; Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol; neu fy swyddfa i,” meddai Shan Morgan yn ei neges.

Ymchwilio

Nod yr ymchwiliad yw ystyried y ffordd y cafodd y diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, ei ddiswyddo gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Bu farw Carl Sargeant rhai dyddiau ar ôl cael ei ddiswyddo o gabinet y Llywodraeth. Roedd yn wynebu ymchwiliad gan y Blaid Lafur i honiadau o gamymddwyn rhywiol yn ei erbyn.

Mae’r dyn a fydd yn gyfrifol am yr ymchwiliad, Paul Bowen QC, bellach wedi cadarnhau cylch gorchwyl yr ymchwiliad, ac wedi addo y bydd yn “drylwyr ac annibynnol”.

“Pryderon difrifol”

“Unwaith eto, mae pryderon difrifol wedi’u codi ynglŷn ag ymddygiad Llywodraeth Cymru, ac mae hyn yn codi amheuon ynglŷn â’r broses gyfan,” meddai Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.

“Os ydyn am gael ymchwiliad sy’n hollol annibynnol, rhaid cyflwyno’r dystiolaeth gyfan i’r Cwnsler y Frenhines (QC) sy’n arwain yr ymchwiliad. Ni ddylai’r dystiolaeth gael ei fetio gan yr Ysgrifennydd Parhaol a’i gweision bach.”

Ymateb yr Ysgrifennydd Parhaol

“Rydym wedi bod yn glir, fel gwasanaeth sifil, y byddwn yn cydweithio’n llawn â gwaith y QC,” meddai llefarydd ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol.

“Ac mi fydd unrhyw dystiolaeth a fydd yn cael ei gasglu gan staff ar sustemau Llywodraeth Cymru yn cael ei chyfuno a’i throsglwyddo i’r ymchwiliad yn ei chyfanrwydd heb gael ei olygu.

“Rydym hefyd wedi diweddaru ein rhyngrwyd fewnol er mwyn ei wneud yn gliriach bod staff yn medru cysylltu â’r QC yn uniongyrchol os ydyn nhw am wneud hynny, ac mae yna ddolen i’w gwefan.”