Mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi cyhoeddi llythyr ar y cyd, yn codi pryderon am statws dinasyddion Ewrop yn dilyn Brexit.

Mae’r llythyr yn galw ar weinidogion i fynd ati ar frys i drafod effaith y ‘Cynllun Setliad’ ar gyfer dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA).

Llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, yw hwn, ac wedi’i arwyddo gan Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, ac Ysgrifennydd Materion Allanol yr Alban, Fiona Hyslop.

Mae’r llythyr yn cynnig rhybudd am yr “ansicrwydd mawr” yng Nghymru a’r Alban tros y cynllun.

“Peri gofid”

“Mae’n ddigon posib bod nifer sylweddol o bobol yn wynebu’r risg o fethu allan ar statws ‘wedi’u setlo’ oherwydd dydyn nhw methu – neu dydyn nhw ddim yn gwybod bod angen – rhoi cais,” meddai’r llythyr.

“Mae’r diffyg parhaus yma o fanylion yn fater difrifol i’n dwy lywodraeth, ond hefyd yn peri gofid i ddinasyddion EEA. Mae’r dinasyddion yma yn pryderu am sut fydd Brexit yn effeithio’u dyfodol, a dyfodol eu teuluoedd.”