Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi gorchymyn ar gyfer y penwythnos a fydd yn galluogi plismyn i orfodi grwpiau o bobol i adael ardal benodol o ddinas Casnewydd.

Mi fydd y gorchymyn, sydd mewn grym yng nghanol y ddinas, yn cychwyn am dri’r pnawn heddiw (dydd Gwener, Mehefin 15), gan barhau tan yr un amser ddydd Sul.

Mae’r heddlu wedi penderfynu cyflwyno’r gorchymyn yn sgil adroddiadau o ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol yn yr ardal, wrth i grwpiau o bobol ifanc achosi dychryn a gofid.

Nod y gorchymyn yw rhoi pwerau ychwanegol i blismyn i ofyn i’r rheiny y maen nhw’n credu sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol, i adael.

Hefyd mae’r gorchymyn yn rhoi’r hawl iddyn nhw arestio’r rheiny a fydd yn dychwelyd ar ôl cael eu symud i ffwrdd.