Mae wedi dod i’r amlwg y bydd yn rhaid i Gyngor Conwy dalu £175 miliwn am dair ysgol a gostiodd £40 miliwn i’w hadeiladu.

Ac mae Aelod Cynulliad wedi beirniadu’r drefn fel un gostus ar adeg pan mae’r ysgolion dan sylw yn wynebu gorfod diswyddo staff oherwydd prinder arian.

Ysgol Aberconwy, Ysgol Dyffryn Conwy, and Ysgol John Bright sydd dan sylw, ac mae’r safleoedd yma wedi’u hariannu dan drefn ‘Menter Cyllid Preifat’(PFI).

Gyda ‘Mentrau Cyllid Preifat’, mae cwmni preifat yn cwblhau prosiectau ar ran cyrff cyhoeddus, ac yna yn eu rhentu yn ôl ar brydles i’r trethdalwr.

Yn yr achos yma, bydd Cyngor Conwy – dan reolaeth Llafur – yn talu £175 miliwn i rentu ysgolion a gostiodd £40 miliwn i’w codi.

“Twyllo”

Yn ôl Aelod Cynulliad Aberconwy, Janet Finch-Saunders, dyw’r cynllun ddim wedi cynnig “gwerth am arian” a bellach mae “toriadau i addysg yn cael eu hystyried er mwyn delio â’r taliadau PFI”.

Enghraifft o hyn, meddai, yw’r trafferthion diweddara’ yn Ysgol Aberconwy. Bellach mae’r ysgol yn wynebu caledi ariannol, ac yn ystyried cwtogi staff, yn ôl yr Aelod Cynulliad Torïaidd.

Mae Janet Finch-Saunders yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod wedi “twyllo” trethdalwyr trwy ganiatáu i Gyngor Conwy fwrw ati â’r cynllun, ac yn galw arnyn nhw i weithredu.

Galwad

“Mi fyddaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu er mwyn stopio awdurdodau lleol rhag medru dod ynghlwm â’r cytundebau PFI yma,” meddai.

“Bydd y gost yma yn effeithio cenedlaethau i ddod, yn ogystal â’r genhedlaeth bresennol.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.