Bydd trigolion Caerdydd yn gwario £146 cyn mynd ar wyliau, ar hanfodion munud olaf’ megis dillad, eli haul, meddyginiaeth, llyfrau, bwyd, cyrn gwrando a gemau i gadw’r teulu mewn hwyliau da ar hyd y siwrne.

Ond yn ôl ymchwil gan American Express, bydd pobol prifddinas Lloegr yn gwario £234 ar gyfartaledd, cyn mentro ar wyliau.

Y cyfartaledd trwy wledydd Prydain yw £161, gyda’r gwariant ar ei isaf yn ninas arfordirol Plymouth – £124.

Fe gafodd 2,000 o bobl ledled Prydain eu holi ar gyfer yr arolwg.