Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn apelio ar y cyhoedd i chwilio afonydd Cymru er mwyn darganfod dau fath o bysgod prin.

Yn ôl y corff amgylcheddol, mae miloedd o wyau herlod a gwangod wedi eu darganfod mewn tair afon yn ne Cymru yn ddiweddar, sef afon Gwy, Wysg a Thywi.

Ond maen nhw hefyd yn awyddus i wybod os yw’r pysgod ar gael mewn afonydd eraill, yn enwedig yng ngogledd Cymru.

Mae’r ddau fath o bysgodyn yn rhai sydd dan fygythiad yng ngwledydd Prydain ac yn Ewrop, ond does dim cymaint o fygythiad iddo yng Nghymru.

Herlod a gwangod

Mae’r herlyn a’r wangen yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau yn y môr, ond yn mentro i afonydd yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn er mwyn dodwy eu wyau.

Ar ôl silio, mae nifer o’r pysgod bychain yn marw, ond mae pob pysgodyn benywaidd yn cynhyrchu miloedd o wyau yr un.

Angen chwilio

“Chwiliwch amdanyn nhw gyda’r nos yn rhannau canol ac isaf afonydd, lle y gallwch eu gweld yn nofio o amgylch ei gilydd mewn cylchoedd,” meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Yn ddiweddarach yn y nos fe fyddan nhw’n silio, gyda’r dŵr yn tasgu’n swnllyd wrth i’r pysgod gwrywaidd fynd ar ôl y rhai benywaidd.”