Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad i’r modd y cafodd y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant, ei ddiswyddo, wedi cael ei amlinellu.

Fe gafodd yr Aelod Cynulliad ei ddarganfod yn farw, dyddiau’n unig ar ôl cael ei ddiswyddo ym mis Tachwedd y llynedd.

Roedd Carl Sargeant yn wynebu ymchwiliad gan y Blaid Lafur i honiadau o gamymddwyn rhywiol yn ei erbyn.

Heddiw (dydd Iau, Mehefin 14), wrth alw am dystiolaeth, mae Paul Bowen QC – y dyn a fydd yn gyfrifol am yr ymchwiliad – wedi addo ymchwiliad “trylwyr ac annibynnol”.

Sylw’r QC

“Gobeithiaf y bydd unrhyw un sy’n medru darparu tystiolaeth sy’n gysylltiedig â chylch gorchwyl yr ymchwiliad yn gwneud hynny cyn gynted ag sy’n bosib, ” meddai Paul Bowen.

“[Gwnaf hynny] fel bod fy nhîm a finnau yn medru cwblhau pob cam o’n gwaith o fewn y chwe mis sydd gennym ni.

“O ystyried natur sensitif yr ymchwiliad, ni fydd fy ngwrandawiadau yn cael eu cynnal yn gyhoeddus, ac ni fyddan nhw’n agored i’r cyfryngau.

“Fydda’ i ddim yn gwneud sylw pellach nes y byddaf yn cyhoeddi fy adroddiad tua diwedd y flwyddyn.”