Mae tri dyn wedi cael eu carcharu am guro dynes oedrannus, 88 oed, yn ei chartref yn Y Drenewydd.

Fe ddioddefodd Blanche Rowlands yr ymosodiad ar Fehefin 19 y llynedd, gan dderbyn anafiadau a fydd yn ei heffeithio am weddill ei hoes.

Yn ogystal, cafodd ei modrwy ddyweddïo a gemwaith eraill o werth personol eu dwyn, a chafodd hi ei chloi yn ei hystafell wely am oriau cyn cael ei hachub gan gymydog.

Gerbron Llys y Goron Caernarfon ddoe (Mehefin 13), fe blediodd y tri dyn o’r Drenewydd yn euog.

Bydd Jeffrey John Earp, yn treulio 14 blynedd a phedwar mis dan glo, am gynllwynio i gyflawni bwrgleriaeth.

Fe fydd Keith Charles Grogan, a Carl John Barratt yn treulio tair blynedd yr un yn y carchar, wedi’u barnu’n euog o’r un cyhuddiad.

“Bwystfilaidd”

“Roedd yr ymosodiad yma wedi’i gynllwynio, ac roedd y ddynes yn fregus. Yr ymosodiad dychrynllyd yma yw’r achos gwaetha’ i mi orfod delio ag ef erioed,” meddai, Amy Davies, Ditectif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys.

“Mi wynebodd Blanche ymosodiad bwystfilaidd a hir, ac mae’r anafiadau wedi’i heffeithio yn barhaol. Mi allai fod wedi bod yn waeth.

“Ar ôl ymchwiliad dwys blwyddyn o hyd, dw i’n hapus i ddweud mai dyma’r canlyniad gorau i’w theulu.”