Mae 13 o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn cyfres o gyrchoedd gan yr heddlu yng Nghasnewydd heddiw (dydd Iau, Mehefin 14).

Yn ôl Heddlu Gwent, mi fu dros 120 o swyddogion yn rhan o’r cyrchoedd, a wnaeth dargedu 11 safle yn ardaloedd Maindee ac Alway yn y ddinas.

Yn ystod y cyrchoedd, fe lwyddodd yr heddlu i feddiannu nifer o eiddo oedd wedi’u dwyn, gan gynnwys ceir, dillad, offer trydanol ac arian. Fe ddaethon nhw o hyd hefyd i’r hyn y maen nhw’n credu yw cyffuriau Dosbarth A.

Mae’r 13 o bobol a gafodd eu harestio yn cynnwys deg dyn a dwy ddynes, ynghyd ag un dyn 23 sy’n cael ei amau o fod ym meddiant cyffuriau.

Mae pob un ohonyn nhw yn dal i fod yn y ddalfa.