Mae dyn a dynes o Abertawe a fu farw mewn gwrthdrawiad ar draffordd ddechrau’r wythnos, wedi cael eu henwi.
Bu farw Timothy Peter Grace, 31, o Dreboeth; a Sarah-Jayne Thomas, 28, o Benlan; yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 ddydd Mawrth (Mehefin 12).
Roedd y ddau yn teithio mewn car BMW X5, gyda’r dyn yn gyrru.
Doedd dim un cerbyd arall yn rhan o’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd rhwng cyffordd 37 (Y Pîl) a chyffordd 38 (Margam).
Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle, a bu farw’r dyn o’i anafiadau yn yr ysbyty ar Fehefin 13.
Mae swyddogion Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth am y ddamwain.