Mae Dafydd Iwan yn dweud na fyddai’n barod i weld trefn hen dywysogion Cymru yn cael ei “ail-sefydlu” yn y Gymru fodern.

Er bod y canwr a’r pregethwr lleyg yn credu ei bod yn “bwysig” bod hanes tywysogion Cymru yn cael ei gofio, ac ar ei fod yn cyfeirio at nifer ohonyn nhw yn ei ganeuon, ni fyddai’n “cefnogi” y drefn honno heddiw.

“Dydw i ddim o ran egwyddor yn gefnogol o’r syniad o deulu brenhinol ar hyn o bryd, buasai’n well gen i weld Arlywydd fel sydd yn Iwerddon yn cael ei ethol bob hyn a hyn,” meddai wrth golwg360.

“Mae hanes y tywysogion, wrth gwrs, yn rhan o’n hanes ni, ac mae’n bwysig ein bod ni’n gwybod eu hanes ac yn clodfori’r tywysogion a oedd yn sefyll dros Gymru neu ran o Gymru.

“Ond am fy mod i’n cyfeirio at rywun fel Glyndŵr a Llywelyn mewn cân, dydy o ddim yn golygu fy mod i’n cefnogi’r drefn yna heddiw.”

“pwrpas gwleidyddol”

Yn ôl Dafydd Iwan, mae’r Teulu Brenhinol yn yr oes fodern yn cael ei ddefnyddio i “bwrpas gwleidyddol”.

“Yn y drefn wleidyddol sydd ohoni rŵan, maen amlwg bod y Teulu Brenhinol yn dal i gael ei ddefnyddio i bwrpas gwleidyddol, yn bennaf i gynnal y syniad o un genedl Brydeinig Seisnig,” meddai ymhellach.

“Ond yn wleidyddol dydy o ddim yn werth ymladd yn erbyn hynny, achos beth sy’n bwysig yw bod Llywodraeth Cymru’n cael mwy o rym.”

Codi proffil Gwenllïan

Ond er ei wrthwynebiad i’r syniad o frenhiniaeth, mae’n ychwanegu bod yna rai tywysogion sy’n werth eu cofio.

Mae’n gefnogol, meddai, o’r ymgyrch i “godi proffil” y dywysoges Gwenllian ferch Llywelyn ein Llyw Olaf, am iddi gael ei charcharu am gyfnod mor hir mewn lleiandy yn Sempringham yn Swydd Lincoln.

“Glyn Dŵr yw’r symbol gorau mor belled â dw i yn y cwestiwn,” meddai wedyn. “Ond dw i’n gefnogol iawn i’r ymgyrch i gael sylw i bobol fel Gwenllïan.”