Fe fydd yn rhaid i yfwyr dalu am eu gwydryn yn ogystal â’r cwrw, wrth archebu peint yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Wrth brynu eu peint cyntaf, fe fydd yn rhaid i eisteddfodwyr dalu £1 am gynhwysydd plastig, er mwyn gallu ei ail-lenwi – neu ei ddychwelyd am wydr glân, am ddim – weddill y dydd.

Er y bydd rhaid i ymwelwyr dalu cost ychwanegol am y ddiod feddwol cyntaf, bydd modd cadw’r gwydryn ar ddiwedd y dydd.

Rhan o gynllun newydd yw hyn i annog ymwelwyr i ail-ddefnyddio eu gwydrau, ac i leihau’r defnydd o blastig ‘un tro’ – plastig caiff ei daflu i’r bin ar ôl ei ddefnyddio rhyw unwaith.

Dyma’r tro cyntaf i’r cynllun gael ei gyflwyno yn yr Eisteddfod, ac mae’n debyg bod y brifwyl yn anelu at gefnu ar blastig ‘un-tro’ yn gyfan gwbwl o Eisteddfod Sir Conwy 2019 ymlaen.

“Cam ymhellach”

“Ein bwriad wrth gyflwyno’r cynllun hwn yw mynd cam ymhellach a thorri i lawr ar y plastig un-tro sydd ar y Maes, a bydd hyn yn ein helpu ni i warchod yr amgylchedd,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr y brifwyl.

“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol i ddarparwyr y bariau ac i ninnau, ond rydym yn teimlo’n gryf bod rhaid i ni fynd i’r afael â’r defnydd gormodol o blastig, a gobeithio y bydd gwyliau eraill Cymru’n dilyn yr un trywydd â ni yn y dyfodol.”

Dan y cynllun, bydd y brifwyl hefyd yn cefnu ar welltynnau plastig, bydd darparwyr coffi a the yn cyflwyno “cwpanau paned ailddefnydd”, a bydd gorsafoedd dŵr yn cael eu gosod yma ac acw yn y Bae.

Gwydrau £1

Nid dyma’r tro cynta’ i ymwelwyr sychedig y Bae wynebu’r gost ychwanegol yma.

Rhwng Mai 27 a Mehefin 10 fe ymwelodd Ras Fôr Volvo – ras longau rhyngwladol – â Chaerdydd, a chafodd stondinau a bariau eu gosod yn y Bae i nodi’r digwyddiad.

Gweithiodd Cyngor Caerdydd â’r trefnwyr i sicrhau cynllun tebyg i’r un y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ei fabwysiadu, a olygodd bod yn rhaid talu £1 am wydryn gyda’r archeb cwrw cyntaf.

Mae llefarydd ar ran y  Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau wrth golwg360 eu bod yn “adolygu llwyddiant y mesurau” yma, ac yn ystyried eu cyflwyno eto.

“Rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni ymgorffori’r newidiadau cadarnhaol hyn yn nigwyddiadau a drefna’r Cyngor yn y dyfodol,” meddai, “er mwyn helpu i leihau faint o ‘blastig un-tro’ a ddefnyddir yn y ddinas.”