Mae ysgol uwchradd ym Mhowys ar gau trwy gydol y dydd heddiw (dydd Iau, Mehefin 14), yn sgil adroddiadau bod aelodau o staff a disgyblion yn sâl.

Yn ôl Heddlu dyfed-Powys, mi gawson nhw eu galw i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt toc wedi 11yb ddoe, yn dilyn adroddiadau fod sylwedd wedi’i ddarganfod a oedd yn achosi trafferthion anadlu ac anhwylder.

Fe gafodd tua 20 o bobol eu heffeithio, ac ar ôl derbyn triniaeth feddygol gan griwiau ambiwlans, mi gawson nhw eu hanfon gartref.

Mae llanc 17 oed wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Fe fydd yr ysgol ar gau yn ystod y dydd, er bod disgyblion sy’n sefyll arholiadau wedi’u gorchymyn i fynd i’r brif fynedfa.