Mae Plaid Cymru yn “erfyn” ar Aelodau Seneddol Llafur i gefnogi newidiadau gan yr Arglwyddi i ddeddfwriaeth Brexit mewn pleidlais allweddol yn Nhy’r Cyffredin heno.

Mae  Tŷ’r Arglwyddi wedi cynnig gwelliant i’r Mesur Ymadael fel bod yna ymrwymiad i gadw’r Deyrnas Unedig yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd wedi Brexit.

Mi fyddai hyn yn golygu bod pob un o wledydd Prydain yn medru aros yn Farchnad Sengl.

Roedd cynnig yr arglwyddi yn llwyddiannus er gwaetha’ ymgais gan Jeremy Corbyn i chwipio arglwyddi Llafur i ymatal rhag pleidleisio tros y gwelliant.

Bellach mae’r Blaid Lafur wedi cynnig gwelliant newydd yn Nhy’r Cyffredin a allai “wanhau” cynnig yr arglwyddi, meddai Plaid Cymru, a daw apêl y cenedlaetholwyr yn sgil hyn.

“Gwrthwynebiad di-sail”

“Gan ein bod ni’n wlad sy’n allforio, mae’r Farchnad Sengl yn hanfodol i ddyfodol Cymru,” meddai llefarydd Brexit Plaid Cymru, yr Aelod Seneddol, Hywel Williams.

“Mae’n bwysig i’n dinasyddion, ein busnesau a’n ffermwyr. Dw i’n erfyn ar Aelodau Seneddol Llafur i roi’r gorau i wrthwynebu’r Farchnad Sengl – sy’n wrthwynebiad di-sail.”

“Mae gan Jeremy Corbyn ddewis: naill ai dynnu ei wellliant yn ôl a phleidleisio gyda Phlaid Cymru a newid cwrs Brexit er lles y wlad; neu gael ei gofio am byth fel yr arweinydd gwrthblaid a alluogodd y Torïaid i weithredu eu Brexit caled.”