Fe fydd plant mewn dwy ysgol Gymraeg yn cael rhybudd am beryglon gamblo gan academydd o Awstralia yn ystod yr wythnos nesaf.

Mae Samantha Thomas, Athro Cysylltiol mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Deakin, wedi teithio i Gymru i draddodi Darlith Flynyddol Stafell Fyw yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd nos Fawrth nesaf (Mehefin 19) ac i fod yn brif siaradwr yng nghynhadledd Excessive Gambling Cymru nos Fercher (Mehefin 20).

Ond cyn hynny, bydd yr academydd yn ymweld ag Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yn Y Barri ac Ysgol Gyfun Garth Olwg ym Mhentre’r Eglwys ger Pontypridd ddydd Llun (Mehefin 18).

Yn ystod ei hymweliad, fe fydd hi’n trafod ffrwyth ei hymchwil ar effaith gamblo ar bobol ifanc. Bydd cyfle i’r disgyblion ei holi am ei gwaith ac i gymryd rhan mewn gweithdai.

Ymchwil

Mae ymchwil yr Athro Samantha Thomas yn canolbwyntio ar effaith polisïau llywodraeth a thactegau’r diwydiant ar y niwed sy’n deillio o gamblo.

Mae hi’n adnabyddus am ei gwaith ym maes hysbysebion gamblo a’u heffaith ar bobol ifanc, yn enwedig o safbwynt chwaraeon.

Yn ôl astudiaeth ddiweddar, mae 75% o bobol ifanc o’r farn fod hysbysebion gamblo yn rhan arferol a chyffredin o’r byd chwaraeon.

Mae ei gwaith wedi cael rhywfaint o effaith ar faint o hysbysebion gamblo sy’n cael eu dangos yn ystod gemau byw ac yn y gymuned.

Ar hyn o bryd, mae hi’n cydweithio â chynghorau lleol a sefydliadau yn Awstralia i ddeall effaith tactegau’r diwydiant ar arferion gamblo pobol hŷn, menywod a phobol ifanc.

Ei nod yw lleihau faint mae gamblo yn cael ei normaleiddio.

‘Niwed sy’n ymwneud â gamblo ar gynnydd’

Mewn datganiad, meddai Samantha Thomas: “Dydi gamblo ddim yn ffenomen newydd, ond mae niwed sy’n ymwneud â gamblo ar gynnydd yn y mwyafrif o gymdeithasau, o Gymru i Awstralia.

“R’yn ni hefyd yn gwybod fod hysbysebu yn creu’r argraff ymhlith pobol ifanc fod risg isel i gamblo. Fe fydd cydweithio â gwneuthurwyr polisïau i gyfyngu a lleihau hysbysebion, yn enwedig yn ystod oriau gwylio plant, yn rhan bwysig o fentrau atal iechyd cyhoeddus, yn yr un modd ag yr oedden nhw o ran tybaco.

“Mae plant hefyd yn dweud wrthyn ni y dylai sefydliadau chwaraeon proffesiynol fod yn gwneud llawer mwy i atal pobol ifanc rhag cael eu cyflwyno i farchnata gamblo.

“Fel y dywedodd un bachgen 11 oed wrthym, ‘Mae pobol eisiau gwylio’r gêm, dim gweld yr hysbysebion. Does dim angen eu hannog nhw i fetio’.”