Mae dynes 28 oed wedi marw, ac mae dyn 31 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 brynhawn dydd Mawrth.

Fe ddigwyddodd rhwng cyffordd 37 (Y Pîl) a chyffordd 38 (Margam) toc cyn 3 o’r gloch.

Roedd y dyn yn gyrru’r BMW X5, a’r ddynes fu farw yn teithio ynddo. Bu farw hithau yn y fan a’r lle.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae ei fywyd mewn perygl.

Yn dilyn y gwrthdrawiad, cafodd yr M4 ei chau i’r dwyrain am gyfnod er mwyn i’r ambiwlans awyr lanio, ac roedd ynghau i’r gorllewin am nifer o oriau wedyn. Mae wedi’i hagor erbyn hyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.