Mae un o Aelodau’r Cynulliad wedi cael stŵr y prynhawn yma am ddod â bag o sbwriel gyda hi i siambr y Senedd.

Yn sgil datganiad busnes y Llywodraeth, mi alwodd Joyce Watson ar weinidogion i gyfyngu ar ddefnydd o welltynnau trwy eu polisi caffael cyhoeddus.

Tynnu sylw at lygredd plastig oedd ei nod, ac mi ddaeth a bag llawn sbwriel gyda hi er mwyn gwneud hynny – mi gasglodd y sbwriel ar draeth yn ei hetholaeth, ynghyd â thrigolion lleol.

Ond, ar ôl i’r Aelod Cynulliad, Julie James, ateb y cwestiwn, mi drodd y Llywydd at Joyce Watson a chynnig rhybudd iddi.

“Dw i’n ymwybodol bod llawer o aelodau yn cymryd rhan mewn casgliadau sbwriel, a chasgliadau plastig ar draethau,” meddai Elin Jones.

“Dw i ddim eisiau gosod cynsail ar gyfer dod â’ch casgliad fel prop i’r siambr.”

Llun

Mae’n debyg bod yr Aelod Cynulliad, Jenny Rathbone, wedi tynnu llun o’r bag tra’r oedd Joyce Watson yn holi ei chwestiwn, a chafodd hithau hefydd ei rhybuddio.

“’D’yn ni ddim wedi cael ein hethol i dynnu lluniau o’n gilydd,” meddai’r Llywydd. “Hoffwn atgoffa aelodau o hynny.”