Mae hanesydd o Geredigion yn dweud bod un dywysoges yn hanes Cymru yn “annwyl” iddo, gan iddi ei sbarduno i ddysgu mwy am hanes ei ardal leol yng ngogledd y sir.

Dewis Gerald Morgan yw’r Dywysoges Gwenllïan, ac er bod dwy dywysoges enwog yn hanes Cymru wedi rhannu’r union enw, mae’r cyn-brifathro’n dweud nad oes  “llawer yn gwybod” am ei Gwenllïan ef, sef Gwenllian ferch Maelgwn Fychan o Lanfihangel-y-Creuddyn.

“Mae Gwenllïan yn annwyl i mi oherwydd mi oedd hi’n dal allwedd i mi ddeall y pentre’ hyfryd  a phwysig hwn [sef Llanfihangel-y-Creuddyn], er ei fod yn ddigon di-nod heddiw…,” meddai wrth golwg360.

“Alla’ i ddim pledio llawer ar ei rhan hi yn bersonol, ond roedd ei bodolaeth hi wedi agor fy nychymyg hanesyddol i weld beth oedd pwysigrwydd ei chartre’.”

Gwenllian ferch Maelgwn Fychan?

Yn ôl Gerald Morgan, y tro cyntaf iddo ddod ar draws enw’r dywysoges oedd pan symudodd i fyw i Lanfihangel-y-Creuddyn ar ddechrau’r 1970au.

Roedd wedi sylwi, meddai, ar yr eglwys drawiadol a hynafol yng nghanol y pentre’ “di-nod” yr olwg, ac roedd hynny wedi’i sbarduno wedyn i chwilio am hanes y lle.

“Mi es i adre ac edrych yn fy llyfre, a ffeindio’r cyfeiriad at y pentre’, dan enw arall, yn Brut y Tywysogion dan y flwyddyn 1254: ‘Yma y bu farw Gwenllïan ferch Maelgwn Ieuanc yn Llanfihangel Gelynrod…,” meddai.

“Mae’n ymddangos i mi fod Llanfihangel wedi bod yn llys i’w thad, Maelgwn, oherwydd roedd hithau, a oedd wedi bod yn briod ag un o arglwyddi Meirionnydd, yn amlwg wedi dod adre yn ddynes sâl iawn i farw, ac fe farw yn ei hen gartre’ gyda’i thad.”

“Esbonio llawer”

Mae’r hanesydd yn ychwanegu bod y cyfeiriad hwn wedi “esbonio llawer” iddo, gan ddangos bod y pentre’ y mae’n byw ynddo wedi bod yn brif lys i un o dywysogion yr Oesoedd Canol.

“I mi roedd hyn yn esbonio llawer, oherwydd roedd yn rhaid gen i fod Llanfihangel Gelynrod – Llanfihangel-y-Creuddyn heddiw – yn brif fan neu’n brif ddinas arglwyddiaeth y Creuddyn, sef yr ardal i’r de o afon Rheidol ac i’r gogledd i afon Ystwyth.

“Roedd Maelgwn yn dywysog ar arglwyddiaethau eraill hefyd, ond dyma ei arglwyddiaeth ef ‘ar ganolfan yn Llanfihangel-y-Creuddyn…”