Mae sefydlydd canolfan hanes yng Ngwynedd yn dweud bod yna nifer o dywysogion wedi bod yn “ddewr ac yn aberthol” yn hanes Cymru – a bod angen dysgu mwy amdanyn nhw.

Yn ôl Geraint Jones, a sefydlodd Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr yn 2006, does dim digon o “wir hanes Cymru” yn cael eu dysgu mewn ysgolion, ac dyna pam eu bod nhw fel canolfan wedi bod “ar flaen y gad” yn ymgyrchu ar y mater.

“Rydan ni hyd yn oed yn cynnal cyfarfodydd ein hunain – Ein Gwir Hanes yw eu henwau – sy’n cael eu cynnal deirgwaith y flwyddyn ar ddyddiau Sadwrn,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw ar gyfer dysgu ein pobol gwir hanes eu cenedl, ac mai Glyndŵr a’i debyg ac eraill ydy gwir frenhinoedd a thywysogion Cymru, ac nid y giwed yna o ochor arall i Glawdd Offa sydd ddim llai nac ymhonwyr ffals.”

Nifer yn haeddu clod

Er bod Geraint Jones o’r farn mai Owain Glyndŵr sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf yn hanes Cymru, mae’n dweud bod yna nifer o frenhinoedd a thywysogion eraill sy’n werth eu henwi.

Mae’r rheiny, meddai, yn cynnwys Hywel Dda, Gruffudd ap Cynan ac hyd yn oed Dafydd ap Gruffudd, sef brawd dadleuol Llywelyn ein Llyw Olaf.

“Mi wnaeth safiad mawr iawn yn y diwedd, er bod ei fywyd o wedi bod yn bur helbulus a mympwyol braidd yn ei ffyddlondeb a’i deyrngarwch i’w frawd ac i Gymru,” meddai am Dafydd ap Gruffudd.

“Ond mi safodd yn y diwedd, ac mi safodd yn ddewr iawn, ac mi ddioddefodd farwolaeth erchyll, erchyll iawn ar sgwâr Amwythig dros Gymru yn cael ei ddiberfeddu – y cyntaf i gael hynny yn hanes Coron Lloegr.”

“Roedd y gosb wedi’i ddyfeisio yn arbennig ar gyfer fo…”