Mae oedi wedi bod ar hyd ffordd yng Ngheredigion ar ôl i lwyth lori fynd ar dân.

Roedd y lori’n teithio ar hyd yr A487 rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth, ac mae lle i gredu bod peiriannau ar gefn y lori wedi mynd ar dân, gan losgi gwrychoedd.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, ond dywedodd yr heddlu bod disgwyl oedi ar y ffordd, a’i bod nhw’n dargyfeirio traffig.