Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn dathlu cyfraniad rhyngwladol y diwydiannau creadigol a chynhyrchwyr teledu annibynnol mewn derbyniad arbennig yn Llundain heddiw (dydd Llun, Mehefin 11).

Mae’r derbyniad yn Nhŷ Gwydyr yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng y Swyddfa Gymreig a Theledwyr Annibynnol Cymru (TAC), sy’n cynnwys cwmnïau fel Boom Cymru, Rondo ac Avanti Media.

Yn ei araith i’r gymdeithas fasnach, mi fydd Alun Cairns yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiannau creadigol yng Nghymru ar y llwyfan rhyngwladol, sy’n cyflogi tua 50,000 o bobol, i economi Cymru.

Bydd hefyd yn sôn am gefnogaeth Llywodraeth Prydain i S4C, ynghyd â’r modd y mae dinasoedd Cymru yn dod yn lleoliadau sydd o ddiddordeb i fuddsoddwyr y diwydiant.

Cyfraniad rhyngwladol

“Yng Nghymru, mae gennym ni rai o’r cynhyrchwyr teledu a’r darlledwyr annibynnol mwyaf talentog yn y byd, sy’n creu swyddi a chyfleoedd ar gyfer miloedd o bobol drwy’r wlad,” meddai Alun Cairns.

“Yn gynyddol, mae ein dinasoedd yn dod yn gyrchfannau o ddewis ar gyfer buddsoddwyr mawr sy’n cydnabod yr effaith anferth y mae ein crewyr cynnwys yn ei gael ar y llwyfan rhyngwladol.”