Fe fydd pencadlys newydd ar gyfer prosiect Metro De Cymru yn cael ei agor yn Ffynnon Tâf yn dilyn buddsoddiad o £100 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Daeth y cadarnhad gan Weinidog yr Economi, Ken Skates.

Bydd y pencadlys yn gartref i 36 o gerbydau Metro. Fe fydd y gwaith cynnal a chadw’n cael ei gwblhau yno, a bydd y safle hefyd yn weithle i 400 o staff y trenau, yn ogystal â 52 o staff canolfan reoli’r Metro.

Bydd gorsaf Ffynnon Tâf hefyd yn cael ei hadnewyddu fel rhan o’r prosiect £194 miliwn, a bydd cyfleuster parcio a theithio newydd yn gwella mynediad cymudwyr i deithiau ar y Metro.

Hefyd fel rhan o’r prosiect, fe fydd £5 miliwn yn cael ei neilltuo i adnewyddu’r pencadlys yn Nhreganna a chyfleusterau eraill yn Nhreherbert a Rhymni.

Buddsoddiad yn ‘gonglfaen ein ffordd newydd o weithio’

Wrth gyhoeddi’r buddsoddiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Buddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol yw conglfaen ein ffordd newydd o weithio gyda’r rheilffyrdd ac yn unol â’n Cynllun Gweithredu ar yr Economi, rydyn ni am wneud yn siŵr bod ein buddsoddiad o £5bn yn y gwasanaethau rheilffyrdd yn cynyddu’r cyfleoedd i fusnesau o Gymru, yn rhoi hwb i economi Cymru ac yn datblygu sgiliau lleol gan greu a chynnal cymaint o swyddi lleol â phosib.

“Adeiladu depo Ffynnon Taf fydd un o’r cyfleoedd cyntaf i gyflenwyr o Gymru elwa’n uniongyrchol ar ein buddsoddiad o £738m ym Metro’r De a fydd yn creu seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy a chysylltiedig.

“Testun cyffro mawr imi yw’r gwahaniaeth byw a gweladwy y gall y buddsoddiad hwn gan y sector cyhoeddus ei wneud i fusnesau a chymunedau Cymru.”

Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ar y pencadlys ddechrau’r flwyddyn nesaf, a’i gwblhau erbyn 2022.